Safle'r ddamwain awyren yn yr Aifft
Gweithred brawychol a achosodd i  awyren  o Rwsia daro’r ddaear yn yr Aifft, cadarnhaodd pennaeth diogelwch Rwsia.

Mae Alexander Bortnikov wedi dweud wrth Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin heddiw mai dyfais ffrwydro’ wedi’i wneud â llaw a ffrwydrodd ar yr awyren.

Bu farw pob un o’r 224 o bobl oedd ar yr awyren Metrojet, y rhan fwyaf ohonyn nhw’n dwristiaid o Rwsia, ar 31 Hydref ym Mhenrhyn Sinai.

“Yn ôl ein harbenigwyr, fe ffrwydrodd dyfais ffrwydrol wedi’i wneud â llaw oedd yn gyfwerth â 1kg o TNT ar yr awyren, gan achosi iddi dorri’n ddarnau yn yr awyr, sy’n egluro pam roedd corff yr awyren wedi cael ei wasgaru ar draws (rhan eang) o dir,” meddai Alexander Bortnikov.

“Gallaf ddweud yn sicr mai gweithred brawychol oedd hwn.”

“Byddwn yn dod o hyd iddyn nhw ac yn eu cosbi”

Fe addawodd yr Arlywydd Vladimir Putin y byddai’n dod o hyd i’r rhai oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad.

“Byddwn yn edrych amdanyn nhw ymhob man, ble bynnag maen nhw’n cuddio. Byddwn yn dod o hyd iddyn nhw unrhyw le ar y ddaear ac yn eu cosbi nhw,” meddai Vladimir Putin.

Mae’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad ar yr awyren mewn datganiadau ysgrifenedig, ynghyd â fideo a negeseuon sain a gafodd eu postio ar y we ar ôl y gyflafan.

Dywedodd y grŵp ei fod yn dial am gyrchoedd awyr Rwsia yn erbyn IS, a grwpiau eraill yn Syria.

 

‘Targedu’ Arlywydd Rwsia

Roedd y grŵp hefyd wedi rhybuddio Vladimir Putin y byddai’n ei dargedu “gartref” ond doedden nhw heb roi manylion i gefnogi eu honiadau.

Mae IS hefyd wedi dweud ei fod yn gyfrifol am yr ymosodiadau ym Mharis ddydd Gwener ddiwethaf a laddodd 129 o bobol ac anafodd 350 o bobol eraill.