Mae adeilad deulawr yn China wedi dymchwel, ac mae 17 o adeiladwyr wedi’u lladd. Mae 23 o weithwyr eraill wedi’u hanafu.

Fe ddigwyddodd y cwymp bnawn Gwener yn nhre’ Beiwudu yn nhalaith Henan, tra’r oedd gwaith strwythurol yn cael ei wneud arno.

Fe gafodd 40 o bobol eu tynnu o’r rwbel, ond roedd 17 wedi marw. Mae 9 o bobol mewn cyflwr difrifol.

Mae pobol sy’n cael eu hystyried yn gyfrifol am gwymp yr adeilad wedi’i harestio a’u cludo i’r ddalfa.