Mae adeilad oedd yn cael ei ddymchwel yng nghanol dinas Efrog Newydd, wedi cwympo gan ladd un o’r adeiladwyr a dal beth bynnag un gweithiwr arall yn gaeth yn y rwbel.

Fe ddaeth yr adeilad wyth llawr i lawr mewn ar West 38th Street yng nghanol Manhattan, ac mae’r ffordd honno bellach wedi’i chau tra bod y gwasanaethau brys yn gwneud eu gwaith.

Mae cofnodion adeiladu yn dweud mai Fortuna LLC ydi perchnogion yr adeilad, a bod y gwaith dymchwel yn digwydd ar ran Northeast Service Interiors.