Mae Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans wedi datgan cefnogaeth i ymgyrchwyr sydd yn ceisio codi ymwybyddiaeth at reoli clefyd siwgr. Fe fydd hi’n cyfarfod ymgyrchwyr o’r Ffederasiwn Rhyngwladol Clefyd Siwgr yn Senedd Ewrop yn Strasbourg yr wythnos hon.

Gorchwyl y mudiad yw codi ymwybyddiaeth am effaith clefyd siwgr ar iechyd cyhoeddus yng Nghymru ac yn Ewrop ar drothwy Diwrnod Clefyd Siwgr ar Dachwedd 14.

Yn ôl y Ffederasiwn, fe amcangyfrifir y gellir atal hyd at 72% o Glefyd Siwgr drwy wneud newidiadau i’n ffordd o fyw. Mae’n galw hefyd am waharddiad ar hybsbysebu diodydd melys i blant fel rhan o ymdrech i leihau’r siwgr y byddan nhw’n ei fwyta.

Mae Plaid Cymru eisoes wedi cyflwyno treth ar ddiodydd melys pe bai’n ennill yn yr etholiadau nesaf i’r Cynulliad.

Profion gliwcos

Fel rhan o’r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth, fe fu Jill Evans yn cael cynnig prydiau bwyd iach amser cinio a phrofion gliwcos, gydag arddangosfa arbennig.

“Mae tua 177,000 o bobl yn byw gyda chlefyd y siwgr, tra gall fod tua 77,000 o rai eraill yn cael eu heffeithio ganddo heb fod yn ymwybodol ohono,” meddai Jill Evans.

“Yn ogystal â’r effeithiau ar iechyd personol ac ansawdd bywyd, mae clefyd y siwgr yn gyfrifol am tua 10 y cant o gyllideb y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru bob blwyddyn. Mae hynny tua £500 miliwn y flwyddyn. Mae yna gymaint yn fwy y gellir ei wneud i atal clefyd y siwgr, ac mae ymwybyddiaeth yn hanfodol bwysig.

“Dyna pam mae’n bleser gen i gefnogi’r ymgyrch yma. “Rwy’n falch fod y Ffederasiwn Clefyd Siwgr Rhyngwladol yn dodi cymaint o bwyslais ar annog pobl i beidio ag yfed diodydd melys. Mae hwn yn adlewyrchu ymrwymiad Plaid Cymru i drethu diodydd melys a gwario’r arian ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”