Yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond
Mae pump o Brydeinwyr wedi marw ar ôl i’r cwch roedden nhw’n teithio ynddo i wylio morfilod, suddo ger arfordir Canada.

Mae un person yn dal ar goll ac 18 yn parhau yn yr ysbyty ar ôl i’r cwch, a oedd yn cludo 27 o bobl, droi drosodd ger Ynys Vancouver bnawn dydd Sul.

Roedd dynes a phedwar dyn ymhlith y rhai fu farw. Roedd tri ohonyn nhw’n dwristiaid a dau yn byw yng Nghanada.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond bod ei feddyliau “gyda theulu a ffrindiau’r rhai sydd wedi’u heffeithio gan y ddamwain ofnadwy yma.”

Ychwanegodd bod staff consylaidd yn British Columbia yn rhoi cymorth i deuluoedd y rhai gafodd eu lladd a’u bod yn parhau mewn cysylltiad agos a’r awdurdodau yng Nghanada.

Roedd y cwch, a oedd yn cael ei redeg gan gwmni lleol Jamie’s Whaling Station, wedi mynd i drafferthion tua 8 milltir o dref Tofino, sydd tua 150 o filltiroedd i’r gorllewin o Vancouver.

Yn ol Associated Press, bu farw dau o bobl mewn damwain angheuol gyda’r cwmni ym 1998, ar ôl i gwch droi drosodd, gan ladd y capten ac un o’r teithwyr.

Dywedodd llygad-dyst, Alec Dick, o Ahousat, bod ton wedi “troi’r cwch drosodd yn gyfan gwbl” gan ychwanegu nad oedd y teithwyr “wedi cael amser i wneud unrhyw beth.”

Yn ôl Gwylwyr y Glannau roedd y tywydd yn sych a braf adeg y ddamwain.