Mae dau fachgen yn eu harddegau wedi’u harestio ar amehuaeth o dreisio plentyn dwyflwydd a hanner oed ym mhrifddinas India.
Fe fu’r heddlu yn Delhi yn holi 250 o bobol leol lle cafodd y ferch fach ei gadael mewn parc, yn gwaedu, nos Wener.
Cafodd dau fachgen 17 oed eu harestio yn hwyr neithiwr.
Mewn digwyddiad arall, mae tri o ddynion yn y ddalfa yn nwyrain y ddinas ar amheuaeth o dreisio merch bum mlwydd oed.