Ahmet Davutoglu, Prif Weinidog Twrci
Mae tensiynau ym mhrifddinas Twrci heddiw, wrth i’r heddlu rwystro rhai gwleidyddion rhag gosod blodau yn y man lle ffrwydrodd dwy fom ddoe, gan ladd 95 o bobol.

Mae Twrci wedi cyhoeddi tridiau o alaru cyhoeddus yn dilyn yr ymosodiad ddoe yn Ankara, tra’r oedd rali heddwch yn cael ei chynnal.

Roedd y gwleidyddion amlwg, Selahattin Demirtas a Figen Yuksekdag, wedi bwriadu cynnal gwasanaeth coffa heddiw i’r rheiny gafodd eu lladd, ond mae’r heddlu wedi’u rhwystro rhag mynd yn agos i’r man tra bod ymchwilwyr yn dal i astudio’r ardal.

Does neb eto wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad, ond mae Prif Weinidog Twrci, Ahmet Davutoglu wedi dweud mai gwrthryfelwyr Cwrdaidd ac IS sydd fwya’ tebygol o fod wedi gosod a ffrwydro’r dyfeisiadau.

Fe ddigwyddodd hynny o fewn eiliadau y tu allan i orsaf drenau fwya’ Ankara, wrth i gannoedd o gefnogwyr yr wrthblaid, a chefnogwyr Cwrdiaid, gyfarfod i gynnal rali heddwch.