Ankara
Mae beth bynnag 30 o bobol wedi’u lladd yn dilyn ffrwydriadau yn Ankara, prifddinas Twrci.

Mae adroddiadau cynnar yn y wlad yn dweud fod y bomiau wedi targedu rali heddychlon yn y ddinas i dynnu sylw at gynnydd yn y trais rhwng gwrthryfelwyr Cwrdaiss a gwasanaethau diogelwch Twrci.

Mae asiantaeth newyddion yn y wlad wedi darlledu lluniau o bobol yn gorwedd, wedi’u hanafu, ar y strydoedd yn dilyn y ffrwydriadau.