Fe allai nifer o bobol fod wedi’u lladd mewn tân ar safle teithwyr yn Iwerddon, meddai heddlu’r wlad.

Y gred ydi fod “nifer fechan o farwolaethau” wedi i’r tân gydio mewn safle yn Carrickmines, i’r de o ddinas Dulyn.

Fe gafodd chwe chriw o ymladdwyr tân, ynghyd â thair ambiwlans, eu galw i’r safle yn ystod oriau mân bore heddiw.

“Mae’r gwasanaethau brys wedi bod ar y safle ers tua 4 o’r gloch y bore,” meddai llefaraydd ar ran Gwasanaeth Tân Iwerddon, cyn cadarnhau fod dau oedolyn wedi’u cludo i ysbytai St Vincents a Tallaght, yn diodde’ o effeithiau anadlu mwg.