Mae un person wedi ei ladd a thri arall wedi’u hanafu ar ôl cael eu saethu ym Mhrifysgol Gogledd Arizona.

Dyma’r 22ain tro i achos o’r fath ddigwydd mewn ysgol neu goleg yn y wlad eleni.

Mae cyfarwyddwr cysylltiadau cyhoeddus y brifysgol, Cindy Brown, wedi dweud bod y saethwr honedig yn cael ei gadw yn y ddalfa ar hyn o bryd.

Digwyddodd y saethu mewn maes parcio y tu allan i lety Mountainview Hall y brifysgol ar gampws Flagstaff.

Dywedodd Cindy Brown nad oedd hi’n gwybod be achosodd y saethu a doedd dim manylion ganddi am y saethwr na’r dioddefwyr, eu cyflyrau na p’un a oedden nhw’n fyfyrwyr.

Galw am gyfreithiau llymach

Mae’r Arlywydd, Barack Obama yn parhau i alw am gyfreithiau mwy llym i reoli gynnau yn y wlad.

Dyw “meddyliau a gweddïau” ddim yn ddigon bellach, meddai, gan fod ymosodiadau eraill yn digwydd ymhen ychydig wythnosau neu fisoedd.