Barack Obama
Fe allai bachgen 11 oed o America wynebu achos o lofruddiaeth yn ei erbyn ar ôl honiadau ei fod wedi lladd ei gymydog 8 oed am ei bod hi’n gwrthod iddo weld ei chi bach.

Dywedodd Latasha Dyer bod ei merch, McKayla wedi bod yn chwarae y tu allan pan wnaeth ei chymydog ofyn i gael gweld ei chi bach. Yn ôl ei mam, pan wrthododd McKayla, fe wnaeth y bachgen ei saethu.

Yn ôl Siryf Swydd Jefferson, Tennessee, Bud McCoig, fe wnaeth y bachgen ddefnyddio gwn ei dad i saethu McKayla o’i gartref.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r safle ddydd Sadwrn i dref White Pine lle’r oedd y ferch yn gorwedd ar y llawr gyda chlwyf ar ei brest.

Bu farw mewn ysbyty cyfagos.

Daw hyn ddyddiau’n unig ar ôl i Arlywydd America, Barack Obama alw am ddeddfau llymach ar reoli gynnau’r wlad.

“Rhywsut, mae hyn wedi dod yn rhywbeth arferol,” meddai ar ôl i naw o bobl gael eu saethu’n farw mewn coleg yn Oregon ychydig ddyddiau yn ôl.

“Gallwn ni wneud rhywbeth am hyn, ond mae’n rhaid i ni newid ein cyfreithiau,” meddai Barack Obama.