Mae Twrci wedi galw llysgenad Rwsia i mewn, er mwyn protestio am y modd yr aeth awyren ryfel o Rwsia trwy ofod awyr y wlad er mwyn mynd yn agos at y ffin â Syria.

Fe hedfannodd yr awyren dros dre’ Yayladagi yn nhalaith Hatay ddydd Sadwrn, gan achosi i lywodraeth Twrci anfon dwy awyren jet F-16 i’r awyr i amharu ar hediad yr awyren o Rwsia a’i gorfodi i ddychwelyd i ofod awyr Syria.

Yn y cyfarfod gyda llysgenad Rwsia, fe fynnodd Twrci na ddylai rheolau gael eu torri fel hyn, ac fe rybuddiodd mai ar Rwsia y byddai’r bai am unrhyw “ddigwyddiad annymunol” o ganlyniad i unrhyw dorri rheol yn y dyfodol.

Mae Twrci hefyd wedi mynegi consyrn tros ymosodiadau o’r awyr gan Rwsia yn Syria, a’u bod yn targedu gwrthryfelwyr sydd â chefnogaeth dramor. Mae Twrci a Rwsia ar ddwy ochr y ddadl yn Syria, gyda’r naill am weld yr arlywydd Bashar Assad yn cael ei symud o’i swydd, a’r llall yn ei gefnogi.