Mae Arlywydd Syria, Bashar Assad wedi dweud bod rhaid i ymgyrch awyr Rwsia yn erbyn brawychwyr yn Syria lwyddo, neu fe allai achosi trychineb i’r wlad.

Gwnaeth Assad ei sylwadau yn ystod cyfweliad gyda gorsaf deledu Khabar TV yn Iran ddydd Sul.

Dywedodd fod cefnogaeth Iran a’r Gorllewin i’r ymgyrch yn hollbwysig i Rwsia.

Dyma’r tro cyntaf i Assad leisio’i farn yn gyhoeddus ers i’r cyrchoedd awyr ddechrau ddydd Mercher.

Nod y cyrchoedd yw dinistrio canolfannau’r Wladwriaeth Islamaidd a sefydliadau brawychol eraill.