Mae o leiaf 16 o bobol wedi cael eu lladd yn dilyn llifogydd mawr ar rifiera Ffrainc.

Mae’r meirw’n cynnwys pobol oedd wedi mynd yn sownd mewn ceir, gwersyll a chartref i bobol sydd wedi ymddeol.

Mae 27,000 o gartrefi heb drydan o hyd wedi i afon Brague orlifo yn rhanbarth Cannes nos Sadwrn.

Mae’r chwilio am oroeswyr yn parhau.

Roedd mwy na 17 centimetr o law – sydd fel arfer yn cwympo mewn deufis – yn yr ardal dros gyfnod o ddwy awr nos Sadwrn.

Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande ac un o weinidogion y llywodraeth, Bernard Cazaneuve yn yr ardal i dalu teyrnged i’r rhai fu farw.

Roedd y rhai fu farw’n dod o drefi Cannes, Biot, Golfe-Jaun a Mandelieu-la-Napoule yn agos i’r ffin gyda’r Eidal.

Mae chwech o bobol yn dal ar goll, ac mae’r llywodraeth yn dweud bod y gobaith o ddod o hyd iddyn nhw’n fyw yn dechrau pylu.

Mae trenau yn ne-ddwyrain Ffrainc wedi cael eu hatal am y tro, ac mae nifer o ffyrdd yn dal ynghau.