Arlywydd Syria, Bashar Assad Agencia Brasil CCA 2.5)
Mae gweinidog tramor Syria wedi dweud y bydd ei wlad yn cymryd rhan mewn trafodaethau heddwch y Cenhedloedd Unedig yn Genefa.

Anerchodd Walid al-Moallem gyfarfod y Cenhedloedd Unedig oedd yn cynnwys arweinwyr y byd wrth i’r gymuned ryngwladol geisio ymateb i ymosodiadau o’r awyr gan Rwsia yn ei wlad.

Bydd y wlad yn cymryd rhan mewn gweithgor gyda’r Cenhedloedd Unedig er mwyn sicrhau heddwch yno.

Dywedodd y gweinidog na fydd ymosodiadau o’r awyr yn unig yn llwyddiannus wrth geisio trechu’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) heblaw eu bod yn cael eu cydlynu gan lywodraeth Syria.

Ychwanegodd hefyd fod penderfyniad Rwsia i ddechrau bomio targedau yno yn seiliedig ar ofynion llywodraeth Syria, a’i fod yn effeithiol oherwydd ei fod yn helpu ymdrechion Syria i drechu brawychiaeth.

Addawodd i barhau â’r frwydr yn erbyn “brawychiaeth”.