Maa'r gwasanaethau trên drwy'r twnel yn ailgychwyn yn raddol ar oôl cael eu hatal dros nos (llun: PA)
Mae gwasanaethau trên Eurotunnel drwy dwnel y Sianel wedi cael eu dal yn ôl wedi i dros 100 o ffoaduriaid fynd ar y cledrau neithiwr.

Cafodd y gwasaanethau eu hatal yn llwyr dros nos ar ôl i grŵp mawr wthio’u ffordd ar y cledrau yn Calais tua hanner nos.

Mae’r trenau wedi ailgychwyn yn raddol y bore yma, ond mae teithwyr yn wynebu oedi sylweddol.

Meddai llefarydd ar ran Eurotunnel:

“Mewn gwirionedd does gan grŵp mor fawr â hyn ddim gobaith o gyrraedd Prydain, felly rydym yn gweld hyn fel ffordd o gael sylw gan y cyfryngau.

“Gyda ffensys newydd yn cael eu codi a mwy o staff diogelwch, mae’n dod yn llawer mwy anodd i fudwyr fynd trwodd mewn niferoedd bach.

“Mae hyn yn ymddangos fel gweithred a oedd wedi’i threfnu’n ofalus, o bosbl i dynnu sylw at eu sefyllfa neu fel ymgais olaf cyn i’r ffensys newydd fynd i fyny.”

Ychwanegodd fod yr heddlu wedi arestio tua 100 o ffoaduriaid mewn cysylltiad â’r digwyddiad.