Mae’r Pab wedi cychwyn ar ei daith ddeng niwrnod i Giwba a’r Unol Daleithiau, gan fentro am y tro cynta’ i’r ddwy wlad a fu’n elynion Rhyfel Oer ond sydd erbyn hyn yn tynnu’n nes at ei gilydd.

Y gred ydi y bydd Pab Ffransis yn cynnig cefnogaeth gyhoeddus i bobol Ciwba ac yn ei gwneud hi’n glir yn America mai’r boblogaeth o dras Sbaenaidd ydi sail yr Eglwys Babyddol yn yr Unol Daleithiau.

Ar y daith, fe ddaw Ffransis y pab cynta’ i annerch Cynghres yr Unol Daleithiau, a bydd hefyd yn canoneiddio’r cenhadwr dadleuol, o dras Sbaenaidd, Junipero Serra, y ’sant’ cynta’ ar dir mawr America.

Trwy ymweld â Chiwba, fe fydd Ffransis y trydydd Pab i wneud hynny yn y 17 mlynedd diwetha’.

Hefyd ar y daith, bydd yn annerch y Cenhedloedd Unedig er mwyn pwysleisio ei agenda ar faterion mudo, yr amgylchedd ac erlid crefyddol. Mae disgwyl i gant o arweinyddion byd wrando ar ei anerchiad.

Bydd y Pab yn glanio yn Washington ddydd Mawrth nesa’, Medi 22, i ddechrau ar ei daith yn America.