Mae o leiaf 16 o bobl wedi’u lladd ar ôl i law trwm achosi llifogydd yng ngorllewin yr Unol Daleithiau.

Mae nifer o bobl eraill yn dal ar goll.

Bu farw pedwar o bobl ym Mharc Cenedlaethol Zion yn ne Utah ac mae tri o bobl yn dal ar goll.

Mae timau achub yn Hildale ar y ffin rhwng Utah ac Arizona yn chwilio am un person sy’n dal ar goll ar ôl i lifogydd ladd o leiaf 12 o bobl yno.