Benjamin Netanyahu
Mae disgwyl i Brif Weinidog Israel Benjamin Netanyahu sydd ar ymweliad a Phrydain wynebu protestiadau chwyrn heddiw wrth iddo gynnal trafodaethau gyda’r Prif Weinidog David Cameron yn Downing Street.

Fe wnaeth grwpiau Palesteinaidd ac Israelaidd wrthdaro ddydd Mercher pan fu’r ddau brif weinidog yn cyfarfod tu allan i rif 10 Downing Street ar ôl i arweinydd Israel gyrraedd Prydain.

Mae deiseb sydd wedi denu 108,000 o lofnodion yn galw am arestio Benjamin Netanyahu am droseddau rhyfel dros farwolaeth 2,000 o Balestiniaid yn dilyn ymgyrch filwrol yn Gaza yn ystod yr haf y llynedd.