Yusufu Mierili
Mae’r dyn sy’n cael ei amau o ffrwydro bom yn Bangkok wedi dweud ei fod yn euog o’r drosedd.

Mae Yusufu Mierili wedi cael ei drosglwyddo i’r ddalfa wedi iddo gael ei holi’n ddwys gan fyddin Gwlad Thai ers wythnos.

Gofynnwyd i Mierili ddweud wrth yr heddlu a’r cyfryngau a oedd e’n euog o’r drosedd neu beidio, ac a oedd ganddo ffrwydron anghyfreithlon yn ei feddiant.

Trwy gyfieithydd, fe ddywedodd “Euog”.

Dydy Mierili ddim wedi cael ei gyhuddo’n ffurfiol eto, ac mae ansicrwydd a fyddai ei ddatganiad yn cael ei dderbyn gan lys barn.

Dywed yr heddlu eu bod nhw wedi dod o hyd i’w olion bysedd a phowdr ffrwydron mewn fflat ar gyrion y ddinas.

Bu farw 20 o bobol yn dilyn y ffrwydrad ar Awst 17.