Mae mellt wedi lladd 22 o bobol yn nwyrain India wrth iddyn nhw weithio ar ffermydd yng nghefn gwlad talaith Andhra Pradesh.

Dywedodd prif weinidog y dalaith, N Chandrababu Naidu fod stormydd garw wedi taro wyth o ardaloedd yn y rhanbarth.

Fe fu bron i ddau dîm criced menywod gael eu taro wrth i fellt daro coeden yn agos i’r cae lle’r oedden nhw’n chwarae yn nhref Guntur.

Mae mellt yn gyffredin yn ystod tymor glawiog India, sy’n para o fis Mehefin i Fedi.

Ond mae’r tywydd diweddar yn India wedi bod yn anghyffredin, ac mae arbenigwyr ar y tywydd yn Hyderabad, prifddinas talaith Andhra Pradesh, yn dweud bod gwasgedd isel dros Fae Bengal wedi achosi’r tywydd garw.