Ffoaduriaid yng ngorsaf drenau Hwngari
Mae’r awdurdodau yn Hwngari wedi ail-agor un o brif orsafoedd trenau’r  brifddinas ar ôl dau ddiwrnod o atal ffoaduriaid rhag teithio ar unrhyw drenau gan achosi tensiwn rhwng y rhai sy’n ceisio lloches a’r heddlu.

Er i filoedd o bobl heidio ar drenau yn syth ar ôl eu hail-agor, mae’r awdurdodau wedi cyhoeddi bod y gwasanaethau wedi cael eu gohirio ‘am gyfnod amhenodol’.

Mae Prif Weinidog Hwngari, Viktor Orban hefyd wedi cyhoeddi na fydd neb yn cael gadael y wlad heb fod wedi’u cofrestru.

‘Problem yr Almaen’

Mae’r rhan fwyaf o ffoaduriaid yn gobeithio teithio i’r Almaen wedi cyhoeddiadau y bydd y wlad yn derbyn 800,000 o fewnfudwyr eleni – pedair gwaith yn fwy na chyfanswm llynedd.

Ac mae Viktor Orban wedi dweud mai ‘problem yr Almaen’ yw’r argyfwng hwn, nid ‘problem Ewrop’.

“Does neb am aros yn Hwngari, nac yn Slofacia, Gwlad Pwyl nac Estonia. Maen nhw i gyd am fynd i’r Almaen,” meddai mewn cynhadledd newyddion fer.

Er hynny, mae’r Eidal, yr Almaen a Ffrainc wedi galw am ‘ddosbarthiad teg’ o’r ffoaduriaid ledled yr Undeb Ewropeaidd.

Mae gwledydd fel yr Eidal a Gwlad Groeg wedi cwyno eu bod yn orlawn ac er bod gwledydd fel yr Almaen yn barod i dderbyn fwy o’r rhai sy’n ceisio lloches, dyw gwledydd eraill Ewrop ddim yn barod i wneud hynny.

Daw galwadau cynyddol ar Brydain i dderbyn rhagor o ffoaduriaid ond mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi mynnu mai sicrhau sefydlogrwydd yn y gwledydd mae’r ffoaduriaid yn dianc ohonynt yw’r ateb, ac nid yw am dderbyn rhagor o ffoaduriaid.

Mae’r pleidiau eraill, gan gynnwys Llafur a Phlaid Cymru wedi beirniadu’r llywodraeth Dorïaidd yn hallt am ei hymateb i’r argyfwng hwn.