Paris
Mae cannoedd o dractorau wedi dechrau cyrraedd Paris ar gyfer protest gan ffermwyr sy’n mynegi eu dicter am ostyngiad mewn prisiau bwyd yn Ffrainc a threthi uwch.

Maen nhw’n rhoi’r bai ar fewnforion rhad a chostau cyflogaeth uwch ac yn dweud bod hynny’n golygu na allen nhw gystadlu gyda’r Almaen na gwledydd eraill Dwyrain Ewrop.

Mae’r ffermwyr yn galw am gefnogaeth gan Lywodraeth Ffrainc a’r Undeb Ewropeaidd.

Eu bwriad yw ymgasglu yn y Place de la Nation yn nwyrain Paris ac mae rhai ffermwyr yn bwriadu teithio i’r Senedd.