Dinas Zaragoza yng ngogledd-ddwyrain Sbaen (o wefan Wikipedia)
Mae o leiaf ddau wedi marw a phedwar arall ar goll wedi ffrwydrad mewn ffatri tân gwyllt yng ngogledd-ddwyrain Sbaen.

Digwyddodd y ffrwydrad tua 2 o’r gloch y prynhawn yma gerllaw dinas Zaragoza.

Aed â chwech o bobl a gafodd eu hanafu i ysbyty Zaragoza.

Mae’r heddlu a diffoddwyr tân wrthi’n chwilio am y rhai sydd ar goll, a’u gwaith yn cael ei lesteirio gan ragor o ffrwydradau yn y ffatri.

Roedd mwg gwyn trwchus i’w weld yn yr awyr am filltiroedd.