Mae Awstria yn gwneud archwiliadau manylach ar ei ffin â Hwngari ar ôl i 71 o ffoaduriaid gael eu darganfod wedi mygu mewn lori.

Roedd tagfa draffig 18 milltir o hyd ar y draffordd rhwng Fienna a Budapest heddiw, ac mae adroddiadau fod y traffig yn symud yn arafach dros bob croesfan ar y ffin rhwng y ddwy wlad.

Mae llywodraeth talaith Bavaria yn yr Almaen hefyd wedi cychwyn gwneud gwiriadau arbennig ar ffyrdd sy’n croesi’r ffin rhwng yr Almaen ac Awstria.

Mae’r tair gwlad yn rhan o ardal cytundeb Schengen yr Undeb Ewropeaidd lle gellir teithio heb basport, ac anaml y bydd cerbydau’n cael eu stopio ar ffiniau’r gwledydd hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu yn Fienna fod pump o smyglwyr wedi cael eu harestio a 200 o ffoaduriaid wedi cael eu dal ers cychwyn yr archwiliadau llymach ddoe.

Roedd y 71 o ffoaduriaid y cafwyd hyd i’w cyrff mewn lori ar y draffordd rhwng Budapest a Fienna yr wythnos ddiwethaf wedi mygu i farwolaeth, ac mae pump o ddynion yn y ddalfa mewn cysylltiad â’r digwyddiad.