Mae pumed dyn wedi cael ei arestio mewn perthynas â marwolaethau 71 o ffoaduriaid y daethpwyd o hyd iddyn nhw’n farw yng nghefn lorri yn Awstria.

Cafodd y dyn ei arestio gan yr heddlu yn Hwngari.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu fod y dyn yn hanu o Fwlgaria a’i fod wedi cael ei arestio nos Sadwrn ar amheuaeth o fasnachu pobol.

Ddydd Iau, cafodd pedwar o bobol eraill – tri o Fwlgaria ac un o Afghanistan – eu harestio yn ne Hwngari.

Cafwyd hyd i’r lorri wedi’i pharcio ar ymyl y brif ffordd rhwng Bwdapest a Fienna.

Mae profion yn cael eu cynnal ar y 59 o ddynion, wyth o fenywod a phedwar o blant fu farw.