Mae Gweinidogaeth Tramor yr Aifft wedi beirniadu llysgennad Prydain ynghylch sylwadau a wnaeth am garcharu tri newyddiadurwr Al Jazeera.

Cafodd y tri – Baher Mohamed o’r Aifft, Mohamed Fahmy o Ganada a Peter Greste o Awstralia – eu dedfrydu i dair blynedd o garchar am adrodd “newyddion ffals” gan lys ddydd Sadwrn.

Cafwyd y tri yn euog o “gynorthwyo sefydliad brawychol”.

Cafodd Mohamed ei ddedfrydu i chwe mis ychwanegol am fod â chasyn bwled yn ei feddiant.

Cafwyd y tri yn euog am y tro cyntaf ym mis Mehefin 2014 am gynorthwyo’r Frawdoliaeth Foslemaidd, a gafodd eu gwahardd gan lywodraeth yr Aifft ar ôl gwrthryfel cartref i waredu ar yr Arlywydd Mohamed Morsi yn 2013.

Dywedodd John Casson fod y penderfyniad i garcharu’r tri yn tanseilio hyder yn sefydlogrwydd y wlad.

Dywedodd llywodraeth yr Aifft eu bod nhw’n gwrthwynebu sylwadau Casson, gan ddweud ei fod wedi “ymyrryd yn annerbyniol” yn system gyfiawnder y wlad.