Tywydd mawr yn y Caribi yn 2013
Mae criwiau achub yn chwilio am bobol ar goll a’r rheiny sydd wedi’u hanafu, wedi i storm drofannol Erika chwipio ynys Dominica yn y Caribi.

Mae heddlu lleol wedi cadarnhau fod 20 o bobol ar goll.

Mae rhagolygon yn dweud y bydd y storm yn cyrraedd talaith Fflorida erbyn dydd Llun, ac mae ar hyn o bryd yn gwneud ei ffordd tua Puerto Rico.

Mae adroddiadau fod dyn dall, oedrannus, a dau o blant wedi’u lladd pan ddaeth tirlithriad a gorchuddio eu cartre’ yn ne-ddwyrain yr ynys.

Mae criwiau achub yn defnyddio cychod i geisio cyrraedd mannau anghysbell, gan fod pontydd a nifer o ffyrdd yn amhosib eu defnyddio.

Mae tua 80% o ynys Dominica heb drydan, ac mae’r cyflenwad dwr hefyd wedi’i effeithio gan y storm. Mae coed a opholion telegraff wedi’u llorio, ac mae’r prif faes awyr wedi’i gau o ganlyniad i lifogydd.