Mae o leiaf 20 o ymfudwyr wedi cael eu canfod yn farw mewn lori yn Awstria, ac mae awdurdodau yn credu y gall fod hyd at 50 o gyrff yn y cerbyd.

Yn ôl heddlu’r wlad mae rhai o’r cyrff eisoes wedi dechrau pydru ac maen nhw’n trin yr achos fel trosedd, gyda Gweinidog Cartref Awstria Johanna Miki-Leitner yn dweud ei bod hi’n “ddiwrnod du”.

Dywedodd yr heddlu fod y cyrff wedi cael eu darganfod mewn lori oedd ar ffordd yn arwain o gyfeiriad y ffin â Hwngari.

Roedd y lori wedi’i pharcio ar lain galed y draffordd ac wedi bod yno ers dydd Mercher, ond heb gael ei ganfod nes dydd Iau.

Dros y misoedd diwethaf mae miloedd o ffoaduriaid o wledydd yn y Dwyrain Canol ac Affrica wedi bod yn ceisio dianc i Ewrop i osgoi rhyfela, gan ddibynnu ar fasnachwyr cyfrin i’w smyglo nhw draw.