Mae gohebydd a dyn camera wedi cael eu saethu’n farw yn ystod darllediad byw ar sianel deledu yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd Jeffrey A Marks, rheolwr cyffredinol sianel WDBJ-TV yn Virginia, mai’r ddau gafodd eu saethu oedd Alison Parker ac Adam Ward.

Mae lluniau fideo yn dangos gohebydd benywaidd yn holi rhywun ynglŷn â thwristiaeth yn Plaza Bridgewater yn Sir Franklin. Gellir clywed ergydion yn cael eu tanio cyn i’r camera ddisgyn i’r llawn a’r gohebydd i’w chlywed yn sgrechian.

Yn ôl gwefan y sianel deledu roedd Alison Parker yn 24 oed ac Adam Ward yn 27.

Nid yw’n glir ar hyn o bryd pwy oedd yn gyfrifol am danio’r gwn neu beth oedd y cymhelliad y tu ôl i’r digwyddiad.

Dywedodd Jeffrey Marks bod pawb yn yr orsaf deledu wedi “torri eu calonnau” o golli’r  ddau aelod o staff.