Mae tua 2,000 o ffoaduriaid wedi rhuthro heibio i heddlu arfog oedd yn ceisio eu rhwystro rhag croesi’r ffin rhwng Groeg a Macedonia. Fe gafodd nifer o bobol eu hanafu yn ystod y comosiwn.

Fe ddechreuodd y cyfan wrth i’r heddlu benderfynu gadael grwp bach o ffoaduriaid gyda phlant ifanc dros y ffin. Dyna pryd y gwasgodd ffoaduriaid o gefn y dorf, a rhuthro ar y plismyn oedd wedi creu wal i’w rhwystro.

Fe syrthiodd nifer o fenywod – un ohonyn nhw’n feichiog – a phlant i’r llawr wrth lewygu yn y dorf. Yna, fe ddefnyddiodd y gweddill y cyfle i redeg ar draws cae lle nad oedd weiren bigog, er mwyn cyrraedd Macedonia.

Er i’r heddlu danio grenadau, chawson nhw fawr o effaith.

Dyma’r ail ddiwrnod o wrthdaro rhwng ffoaduriaid a heddlu Macedonia, wrth i’r awdurdodau geisio rhwystro’r ffoaduriaid rhag mynd yn eu blaenau oFacedonia i Serbia ac yna i Hwngari.