Yr olygfa yn un o'r pentrefi sydd yng nghanol y gwrthdaro yn Yemen (llun: Oxfam)
Un o weithwyr Oxfam yn trafod sefyllfa enbyd y wlad sydd yng nghanol rhyfela erchyll

Heddiw, ar Ddiwrnod Dyngarol y Byd, mae Oxfam yn galw am ddiwedd i’r brwydro erchyll yn Yemen.

Mae’r ymladd cynyddol yno yn gwneud y sefyllfa ddyngarol, sydd eisoes yn ddifrifol, yn llawer gwaeth. Mae’n rhaid i ni wneud popeth y gallwn ni i ddod a’r brwydro i ben a hynny cyn gynted â phosib.

Dyma ganllaw rhyngweithiol sy’n cynnwys gwybodaeth am y sefyllfa gyfredol yn Yemen. Gallwch hefyd gefnogi’r ymgyrch yma wrth ychwanegu eich enw i’r ddeiseb.

Dyma hanes un teulu yno. Mae’r darn wedi ei ysgrifennu gan un o weithwyr Oxfam yn Yemen.

Noor, Omar a’r Ogof

Gan Hind*, Oxfam yn Yemen

Roedd Noor* a’i gŵr yn arfer rhedeg clinig meddygol yn Saada Governorate, yng ngogledd Yemen, yn agos at ffin Saudi Arabia. Nawr y cwbl sydd ganddyn nhw yw twmpath o rwbel.

Yn ystod sgwrs ffôn ges i gyd Noor yn ddiweddar, dywedodd bod y governorate wedi hen arfer gyda thrais. A dweud y gwir, mae brwydro ysbeidiol rhwng gwahanol grwpiau yn mynd ymlaen yno ers 2004.

Ond mae’r ymosodiadau o’r awyr a ddechreuodd yno ym mis Mawrth eleni “yn waeth nac unrhyw beth o’r blaen”.

Meddai Noor, sy’n 35 oed: “Ers mis Mawrth, mae tân yn disgyn o’r awyr yn Saada bob diwrnod. Does dim golwg o fywyd yma: mae tai wedi eu dymchwel, ffermydd wedi eu llosgi a phawb wedi mynd – maen nhw wedi eu lladd neu wedi ffoi.”


Merched a phlant yn aros am ddŵr yfed gan Oxfam, sy'n cael ei anfon yno yn ddyddiol. Mae Oxfam yn darparu 54,000 litr o ddŵr i bobl yn Al-Zuhra
Hyd yma mae cartref y teulu yn dal i sefyll er gwaetha’r brwydro. Ond pan mae’r cyrch awyr yn cychwyn, mae Noor, ei gŵr a’u mab saith oed, Omar*, yn rhedeg ac yn cuddio mewn ogof. Nhw wnaeth dyllu’r ogof hon er mwyn cael lloches yn ystod brwydr gynharach. Roedden nhw wedi ei chau ond nawr maen nhw yn ei defnyddio eto.

“Disgynnodd taflenni o’r awyr gan awyrennau Saudi oedd yn dweud bod gennym ni dair awr i adael ein cartref. Doedd o ddim yn ddigon o amser. Rydym ni, a gymaint o bobl eraill yn byw yn agos at ffin Saudi Arabia, oriau i ffwrdd o’r unig brif ffordd. Roedd hi’n amhosib cyrraedd at y brif ffordd ac roedden ni’n gwybod bod brwydro’n digwydd yno, felly mi benderfynom ni aros.”

Yr ogof yw eu cartref bellach, ond nid teulu Noor yn unig sy’n cuddio yno.

“Mae nadroedd a sgorpionau yn byw gyda ni yn yr ogof – rydym ni wedi gorfod dod i arfer efo nhw. Yn y nos dw i’n rhoi fy mab mewn sach cysgu wnes i ei wneud, a chlymu’r sach uwch ei ben i’w warchod. Roedd ofn ofnadwy arno i ddechrau ond nawr dyw’n dychryn dim pan mae’n gweld sgorpion yn cropian ar fy nghoes.”

Mae 21 miliwn o bobl Yemen angen cymorth, ond mae’r sefyllfa yn Saada yn eithriadol o sobor. Yn ôl data gan yr Integrated Food Security Phase Classification (IPC) does gan 80% o bobl sy’n byw yn y governorate ddim digon o fwyd, ac mae 50% mewn angen difrifol.

“Mae hyn yn oed bwydydd syml yn bethau moethus erbyn hyn. Mae gennym ni ddarn o dir wrth y tŷ, ond wn i ddim am faint allwn ni bara ar ddim ond llysiau a grawn. Dydyn ni byth bron yn cael tanwydd, ac mae ein nwy coginio ni wedi darfod ers misoedd, felly rydym ni’n defnyddio pres a glo i goginio ac i ferwi dŵr i’w yfed. Roedd gennym ni baneli solar am gyfnod, felly rydym yn cael ychydig o drydan ac rydym ni’n defnyddio hwnnw yn bennaf i tshjaro ein ffonau er mwyn gallu cysylltu gyda fy rhieni i wneud yn siŵr eu bod nhw’n iawn.”

Ond doedd Noor ddim, yn awyddus i ddweud llawer am y sefyllfa yn Saada – ac roedd y sgwrs ffôn yn amlwg yn ei gwneud hi’n anghyfforddus.

“Efallai mai dyma ein galwad ffôn olaf, Hind. Efallai na fydd y llinellau ffôn yn gweithio am yn hir eto. Dw i jest eisiau dweud ein bod ni angen i hyn ddod i ben, a hynny yn fuan iawn. Dydy Omar methu cysgu am ei fod yn cael hunllefau am y bomiau a’r cyrchoedd awyr. Dw i’n trio aros yn gryf: i fy mab, fy ngŵr, fy rhieni dwi heb eu gweld ers misoedd, i fy mam sy’n llefain bob tro dw i’n siarad efo hi, ac i’r wlad – roedd hi’n wlad mor brydferth, a nawr does dim ond dinistr, dagrau a gwaed ym mhobman. Does dim ond marwolaeth o’n cwmpas ni.

“Dw i ddim yn gwybod am faint fyddwn ni yma. Rydym ni’n fyw rŵan, ond dim ond tan y byddwn ni’n marw – yn ddisynnwyr – fel y miloedd sydd wedi marw o’n blaenau ni.”

*Mae’r enwau yn y darn wedi cael eu newid yn unol â chais y cyfwelai.