Yng ngogledd India, mae dau frawd wedi torri pen eu chwaer a’i gario trwy’r pentre’, wedi iddi hi gael affêr gyda’i chefnder.

Mae’r heddlu’n dweud fod corff y ferch 17 oed wedi’i adael yn y stryd wedi i’w phen gael ei dorri ymaith. Hyd yma, mae’r heddlu wedi methu â dod o hyd i’r brodyr.

Yn ôl adroddiadau, roedd beth bynnag ddwsin o bobol yn gwylio wrth i’r chwaer gael ei llusgo allan o’r cartre’ teuluol, ei churo a’i lladd, ond nid aeth yr un ohonyn nhw at yr heddlu i riportio’r digwyddiad. Swyddog diogelwch lleol gysylltodd â’r heddlu yn y diwedd.

Mae lladd merched am ddwyn gwarth ar y teulu yn bethau cyffredin ledled India, ond mae marwolaethau mor erchyll yn brin iawn.