Mae ffrwydriad mawr wedi ysgwyd canol dinas Bangkok yn ystod yr awr frys derfyn dydd, gan ladd beth bynnag 15 o bobol ac anafu 25 o bobol eraill.

Dyw hi ddim yn glir eto beth yn union achosodd y ffrwydriad, ond mae’r heddlu lleol yn dweud fod yna dwristiaid ymhlith y meirwon.

Mae un o newyddiadurwyr asiantaeth yr Associated Press yn y fan a’r lle yn dweud ei fod wedi gweld rhannau o gyrff yn gorwedd ar lawr. Mae newyddiadurwr arall sy’n gweithio i orsaf deledu PBS yng Ngwlad Thai, yn dweud iddo gyfri’ 12 o gyrff.

Fe ddigwyddodd y ffrwydriad ar gyffordd brysur yn ardal Rajprasong, lle mae nifer o brotestiadau gwleidyddol wedi’u cynnal yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Mae’n ymddangos fod y ddyfais wedi’i gosod o flaen Cysegrfan Erawan, man twristaidd sydd hefyd yn boblogaidd gyda brodorion Gwlad Thai.