Mae llywodraeth Zimbabwe wrthi’n gweithio’n galed er mwyn hawlio’n ôl benglogau pobol y wlad a gafodd eu lladd mewn rhyfel yn erbyn coloneiddio yn y 1890au.

Mae papur newydd y wladwriaeth, yr Herald, wedi cario stori heddiw yn dweud y bydd gweinidogion y wlad yn cynnal trafodaethau gyda llywodraeth Prydain – y coloneiddiwr – tros hawlio’n ôl y penglogau sydd ar hyn o bryd yn cael eu harddangos yn y Natural History Museum yn Llundain.

Mae’r Arlywydd Robert Mugabe yn dweud fod Prydain yn dal penglogau milwyr a fu’n ymladd yn y Chimurenga Cyntaf, neu’r Rhyfel tros Ryddid Cyntaf rhwng 1893-1896, pryd y daeth pobol o Zimbabwe gyda gwaywffyn, bwa a saeth ben-ben â dynion gwyn yn cario gynnau.

Mae’r amgueddfa yn Llundain wedi cadarnhau mewn datganiad fod ganddi weddillion 20,000 o bobol yn rhan o’i chasgliad, ac nad ydi darnau o gyrff yn cael eu hanfon yn ôl i’w gwlad oni bai bod modd “adnabod yn llawn” pwy oedd yr unigolyn.