Mae profion wedi cadarnhau mai gweddillion awyren Malaysia Airlines sydd wedi cael eu darganfod ar draeth ar ynys Réunion.

Mae’r gweddillion – cydran sy’n sefydlogi’r adenydd ar uchderau isel – yn cyfateb i gydrannau awyren Boeing 777 MH370 oedd wedi diflannu wrth deithio o Kuala Lumpur i Beijing fis Mawrth y llynedd.

Roedd 239 o bobol ar fwrdd yr awyren pan ddiflanodd.

Mae’r ymdrechion i ddod o hyd i ragor o weddillion yn parhau.

Cafodd y gweddillion diweddaraf eu darganfod i’r de o ddinas St Denis.