Mae dau o filwyr wedi cael eu lladd ar ôl i wrthryfelwyr Cwrdaidd ffrwydro bom mewn gorsaf heddlu milwrol yn Nhwrci.
Cafodd 24 o bobol eraill eu hanafu yn dilyn y ffrwydrad.
Defnyddiodd y PKK – sy’n aelodau Plaid Gweithwyr Cwrdistan – ddyfeisiau ffrwydrol yn yr ymsodiad yn nhref Dogubayazit yn nhalaith Agri, ger y ffin ag Iran.
Mewn ymosodiad arall, cafodd un milwr ei ladd a phedwar arall eu hanafu ar ôl i’w cerbyd daro ffrwydron tir a gafodd eu gosod gan y gwrthryfelwyr yn nhalaith Mardin.
Mae cyrchoedd awyr wedi cael eu cynnal bron yn ddyddiol ar ganolfannau’r PKK yng ngogledd Irac mewn ymgais i atal gweithgarwch y Wladwriaeth Islamaidd.
Mae o leiaf 24 o bobol wedi cael eu lladd yn y trais diweddaraf yn Nhwrci.
Mae gwrthwynebwyr i lywodraeth Twrci a phrotestwyr Cwrdaidd wedi cyhuddo’r llywodraeth o gorddi’r dyfroedd mewn ymgais i ennill pleidleisiau cenedlaetholwyr a lleihau dylanwad y blaid Gwrdaidd rhag ofn y bydd etholiadau’n cael eu cynnal yn ystod yr hydref.
Mae asiantaeth newyddion yn Nhwrci’n honni bod 260 o wrthryfelwyr wedi cael eu lladd yn ystod y cyrchoedd awyr yng ngogledd Irac.