Mae mudwyr wedi ceisio croesi’r Sianel unwaith eto, ddiwrnod yn unig wedi i ddyn o Sudan gael ei wasgu i farwolaeth o dan dryc yn Nhwnnel y Sianel.
Bellach, mae naw o bobol wedi cael eu lladd wrth geisio croesi o Ffrainc i wledydd Prydain yn ystod y mis diwethaf.
Mae miloedd o bobol wedi ceisio croesi’r Sianel ers dydd Llun.
Er gwaetha’r peryglon a’r rhybuddion i gadw draw, ymgasglodd miloedd o bobol ar hyd ffens yn Coquelles yn y gobaith o allu croesi’r ffin.
Dringodd tua 15 o bobol drwy dwll mewn ffens, ond cafodd eraill eu dal gan heddlu Ffrainc.
Dywedodd dyn o ddwyrain Afghanistan wrth y Press Association: “Fe glywson ni fod un dyn wedi marw neithiwr ac ry’n ni’n gwybod ei fod yn beryglus, ond does dim ffordd arall o fynd i’r DU.
“Dyma ein cyfle olaf. Ry’n ni’n credu bod yr economi ychydig yn well yn y DU felly fe fydd cyfle i ni gael dogfennau a rhywfaint o waith.
“Mae bywyd yn ein pentrefi’n anodd iawn, allwn ni ddim byw yno.
“Fe gollais i ewythr ac fe gollon ni i gyd ein heiddo a’n cartref yn y rhyfel, cafodd popeth ei ddinistrio.”
Diogelwch
Mae llywodraethau Prydain a Ffrainc wedi addo cydweithio i gynyddu diogelwch ar y ffin, wrth i Ffrainc anfon 120 o blismyn ychwanegol i warchod yr arfordir.
Ond fe fu oedi mawr i deithwyr yn sgil yr ymdrechion diweddaraf gan y mudwyr i groesi’r Sianel.
Mae cwmni Eurostar wedi rhoi’r gorau i werthu tocynnau am y tro, ac fe ddywedodd y cwmni eu bod nhw wedi atal 37,000 o fudwyr rhag croesi ers dechrau’r mis.
Mae lle i gredu bod 148 o bobol wedi llwyddo i gyrraedd gwledydd Prydain ddydd Llun.
Mae Ysgrifennydd Cartref Llywodraeth Prydain, Theresa May wedi gwrthod anfon y fyddin i geisio rheoli’r sefyllfa.