Auschwitz
Mae cyn-aelod o’r SS yn yr Almaen wedi’i ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar am fod â rhan ym marwolaethau 300,000 o bobol yng ngwersyll Auschwitz.

Clywodd y llys fod Oskar Groening, 94, wedi gwarchod bagiau carcharorion ar ôl iddyn nhw gyrraedd y gwersyll, a’i fod wedi dwyn arian oddi arnyn nhw.

Dywedodd erlynwyr fod ei weithredoedd yn gyfystyr â helpu i redeg y gwersyll.

Mae’r cyhuddiadau yn erbyn Groening yn deillio o’r cyfnod rhwng Mai a Gorffennaf 1944, pan gafodd miloedd o Iddewon o Hwngari eu cludo i Auschwitz-Birkenau yng Ngwlad Pŵyl.

Cafodd y rhan fwyaf o’r carcharorion eu lladd ar unwaith mewn siambr nwy.