Swyddogion yn gwarchod y safle yn Sousse, Tunisia lle cafodd 38 o bobl eu lladd
Mae nifer o unigolion, sy’n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â’r dyn arfog a ymosododd ar dwristiaid ar draeth yn Tunisia, wedi cael eu harestio.

Cafodd cyfanswm o 38 o bobl, gan gynnwys hyd at 30 o Brydeinwyr, eu lladd wrth i’r myfyriwr, Seifeddine Rezgui, danio gwn atyn nhw yn ardal Sousse ddydd Gwener.

Fe gyhoeddodd gweinidog yn llywodraeth Tunisia, Najem Gharsalli, bod “nifer sylweddol” o unigolion wedi cael eu harestio.

Daeth y newyddion wrth i Downing Street gyhoeddi y bydd yr holl Brydeinwyr gafodd eu hanafu yn yr ymosodiad yn cael eu cludo yn ôl i’r DU o fewn y 24 awr nesaf.

Fe fu’r Ysgrifennydd Tramor Theresa May yn ymweld â safle’r gyflafan heddiw gan osod blodau yno er cof am y rhai fu farw.

Dywedodd Theresa May ei bod wedi cael cyfarfod “adeiladol” gyda gwleidyddion o Tunisia a gwledydd eraill gan ychwanegu: “Rydym yn benderfynol iawn na fydd y brawychwyr yn ennill. Fe fyddwn yn unedig yn ein hymdrechion i’w gorchfygu, ond hefyd yn unedig yn ein hymdrechion i amddiffyn ein gwerthoedd.”

Yn gynharach dywedodd David Cameron bod y Llywodraeth yn ceisio “gweithio mor gyflym ag y gallai” i gael gwybodaeth ar gyfer teuluoedd sy’n dal i aros i glywed am newyddion am eu hanwyliaid, dridiau ar ôl yr ymosodiad.

Ymhlith y rhai fu farw roedd Trudy Jones, 51, o’r Coed Duon yng Ngwent, a thri aelod o’r un teulu o ganolbarth Lloegr – Patrick Evans, 78, ei fab Adrian, a’i ŵyr Joel Richards. Roedd brawd Joel, Owen, 16, wedi goroesi’r ymosodiad.

‘Munud o dawelwch’

Dywedodd David Cameron wrth y Senedd prynhawn ma y bydd munud o dawelwch am hanner dydd ddydd Gwener er cof am y rhai gafodd eu lladd a’u hanafu.

Ychwanegodd nad yw pobl yn cael eu rhybuddio i gadw draw o ardaloedd arfordirol Tunisia er gwaetha’r ymosodiadau yn Sousse.

“Nid yw’r Swyddfa Dramor yn cynghori pobl yn erbyn teithio i’r rhan yma o Tunisia.. Cafodd hyn ei gytuno gan bwyllgor brys Cobra ac fe fyddwn yn adolygu’r sefyllfa yn gyson,” meddai.

Dywedodd ei fod yn fater anodd “gan nad oes unrhyw le nad yw’n wynebu risg gan eithafwyr brawychol Islamaidd.”

Fe fydd ymarferiad yn cael ei gynnal yn Llundain dros y deuddydd nesaf i sicrhau bod y DU yn barod i ddelio gydag ymosodiad brawychol difrifol, meddai’r Prif Weinidog.