Fe ddaeth dwsinau o bobol ynghyd mewn eglwys i gynnal gwylnos er cof am bedwar o bobol ifanc o Iwerddon a gafodd eu lladd wedi i falconi gwympo yng Nghaliffornia.

Fe hebryngwyd yr eirch i Eglwys Babyddol St Columba yn Oakland, cyn i berthnasau, ffrindiau a chyd-fyfyrwyr gael mynediad i weld y cyrff.

Fe ddaeth bws a fan â thua 50 o fyfyrwyr o Iwerddon sy’n byw yn ardal Bae San Ffransisco am yr haf, draw i’r eglwys. Roedd y pedwar a fu farw yno’n byw a gweithio. Fe aethon nhw i barti pen-blwydd 21 oed un o’u cyd-fyfyrwyr yn Berkeley, pan ddymchwelodd y balconi yn oriau mân ddydd Mawrth.

Meddai Jimmy Deenihan, gweinidog llywodraeth Iwerddon sy’n gofalu am Wyddelod ar wasgar hyd y byd: “Allwn ni ddim llwyr werthfawrogi y trawma y mae’r teuluoedd a’r ffrindiau yn mynd trwyddo.”

Y pedwar myfyriwr oedd yn cael eu cofio yn yr wylnos oedd Eoghan Culligan, Niccolai Schuster, Lorcan Miller ac Eimear Walshm. Roedden nhw ill pedwar yn 21 oed ac yn dod o Iwerddon.

Y ddau arall a gafodd eu lladd yn y digwyddiad oedd Ashley Donohoe, 22; ac Olivia Burke, 21.