Oscar Pistorius
Yn Ne Affrica, mae’r Goruchaf Lys Apêl wedi cyhoeddi y bydd apêl yr erlyniad yn erbyn dyfarniad Oscar Pistorius yn dechrau ym mis Tachwedd

Ym mis Hydref y llynedd, cafwyd yr athletwr yn ddieuog o lofruddio ei gariad Reeva Steenkamp ond yn euog o ddynladdiad a chafodd ddedfryd o bum mlynedd o garchar.

Ym mis Awst, bydd Oscar Pistorius yn gymwys i gael ei ryddhau o’r carchar a threulio gweddill ei ddedfryd wedi ei gyfyngu i’w dŷ.

Roedd Oscar Pistorius wedi saethu ei gariad yn farw yn ei gartref ar Ddydd San Ffolant 2013.

Dywedodd ei fod yn credu bod lleidr yn y tŷ ond mae’r erlyniad wedi dadlau ei fod wedi lladd Reeva Steenkamp yn dilyn ffrae ac y dylid ei gael yn euog o’i llofruddio.