Mae enw cyn-Ddirprwy Brif Weinidog Prydain, Nick Clegg yn ymddangos ar restr o 89 o bobol sydd wedi cael eu gwahardd rhag mynd i Rwsia.

Cafodd y rhestr – sy’n cynnwys enwau nifer o wleidyddion mwyaf blaenllaw Ewrop – ei llunio mewn ymateb i sancsiynau sydd wedi cael eu rhoi ar Rwsia.

Cafodd y rhestr ei rhoi i lysgennad ym Mosgo yn gynharach yr wythnos hon.

Hefyd ar y rhestr mae enwau’r cyn-Ysgrifennydd Tramor Syr Malcolm Rifkind, arweinydd y staff Amddiffyn Syr Nicholas Houghton, y Gweinidog Amddiffyn Philip Dunne a’r cyn-Ysgrifennydd Amddiffyn Andrew Robathan.

Mae’r Swyddfa Dramor wedi beirniadu’r rhestr, gan ddweud nad oes cyfiawnhad o gwbl am y gwaharddiadau.

Dywedodd llefarydd ar ran yr Undeb Ewropeaidd: “Mae’r rhestr sy’n cynnwys 89 o enwau wedi cael ei rhannu gan awdurdodau Rwsia.”

Ychwanegodd y Swyddfa Dramor na fyddai’r rhestr yn gwneud unrhyw wahaniaeth o ran y sancsiynau sydd wedi’u rhoi ar Rwsia yn sgil y gwrthdaro â’r Wcráin.