Parhau mae’r gwres uchel yn ne India lle mae bron i ddwy fil o bobl wedi marw o’i effeithiau dros yr wythnosau diwethaf.

Er bod cawodydd a stormydd mellt a tharanau yn dechrau lleddfu rhywfaint ar y gwres, mae’r tymheredd yn dal i fod rhwng 40 a 45 gradd C mewn dwy dalaith yno heddiw, ar ôl dringo i gymaint â 48 gradd dechrau’r wythnos.

Mae o leiaf 1,490 o bobl yn nhalaith Andhra Pradesh a 489 arall yn nhalaith Telangana wedi marw o gyflyrau sy’n gysylltiedig â gwres uchel gan gynnwys dadhydradu a strôc haul.