Mae pryderon y gallai dwsinau o ffoaduriaid fod wedi boddi ar ôl i gwch droi drosodd ym Môr y Canoldir.

Yn ôl Achub y Plant, mae’r rhai sydd wedi goroesi’r ddamwain wedi dweud fod nifer o deithwyr wedi disgyn allan o’r cwch rwber i’r dŵr ac mae ofnau eu bod nhw wedi boddi.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen, Giovanna di Benedetto, nad ydyn nhw’n gwybod faint yn union o fewnfudwyr wnaeth ddisgyn i’r môr, ond fod nifer o’r goroeswyr wedi awgrymu fod “dwsinau” wedi mynd ar goll.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ddydd Sul yn y môr rhwng Libya a Sisili yn yr Eidal ar ôl i long nwyddau agosáu at achub y teithwyr.

Roedd y rhai oedd wedi goroesi wedi cyrraedd Catania heddiw.

Dros y penwythnos, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y bobl a gafodd eu hachub wrth i smyglwyr yn Libya gymryd mantais o foroedd tawel a thywydd cynnes i anfon miloedd o  ffoaduriaid i For y Canoldir mewn cychod rwber a llongau pysgota oedd wedi’u gorlenwi.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi achub bron i 7,000 mewn tri diwrnod rhwng dydd Gwener a dydd Sul.

Credir bod 800 o ffoaduriaid wedi boddi fis diwethaf ar ôl i’w cwch droi drosodd ger Libya.