Mae daeargryn pwerus yn Nepal wedi lladd beth bynnag 718 o bobol mewn pedair o wledydd.

O blith y meirw, mae 688 yn dod o Nepal ei hunan; 20 o India, chwech o Tibet, a dau arall o Bangladesh. Mae dau o ddinasyddion China wedi’u lladd ar y ffin rhwng y wlad honno a Nepal.

Mae disgwyl i nifer y meirw gynyddu eto, rhybuddia awdurdodau Nepal.

Fe ddechreuodd y ddaear gryno yn Kathmandu a’r ardal o gwmpas toc cyn hanner dydd, amser lleol, heddiw. Cofnodwyd daeargryn o nerth 7.8 bryd hynny.

Ond fe ddaeth ol-gryniad tuag awr yn ddiweddarach, ac roedd hwnnw’n mesur 6.6, cyn i gyfres o gryniadau barhau i ysgwyd Dyffryn Kathmandu a’r ardal boblog o gwmpas y brifddinas am rai oriau.