Uchel Lys Iwerddon
Mae cyn-newyddiadurwr oedd wedi mynd â gwladwriaeth Iwerddon i’r Uchel Lys wedi colli ei achos.
Roedd Ian Bailey wedi cyhuddo’r wladwriaeth o geisio rhoi’r bai arno – ar gam – o lofruddio’r gwneuthurwraig ffilmiau Sophie Toscan du Plantier.
Roedd yn feirniadol o’r ffordd y cafodd yr ymchwiliad i’w marwolaeth ei gynnal.
Cafwyd hyd i gorff y wneuthurwraig ffilmiau ger ei chartref yn Cork yn 1996.
Cafodd Bailey ei arestio ddwywaith ar amheuaeth o lofruddio, ond ni chafodd ei gyhuddo.
Dywedodd y barnwr John Hedigan y byddai costau’n cael eu pennu’n ddiweddarach.
Roedd partner Bailey, Jules Thomas o Gymru, yn y llys i glywed y dyfarniad.
Cefndir
Nid penderfynu os oedd Ian Bailey yn euog o’r drosedd oedd tasg y rheithgor, meddai’r barnwr, na chwaith os oedd y tystion yn dweud y gwir.
Yn hytrach, roedd rhaid i’r rheithgor ystyried a oedd tri aelod o’r Gardai – heddlu Iwerddon – wedi cynllwynio i gyhuddo Ian Bailey o lofruddio drwy fygwth un o’r tystion.
Yn ogystal, roedd wedi’u siarsio i benderfynu a oedd yr heddlu wedi cynllwynio i annog tystion i ddweud celwydd wrth roi tystiolaeth.
Roedd y wladwriaeth wedi gwadu’r cyhuddiadau.