Amanda Knox
Fe fydd y ddau sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio’r fyfyrwraig o Brydain, Meredith Kercher yn clywed heddiw penderfyniad terfynol y Goruchel Lys yn yr Eidal ynghylch yr euogfarn.

Mae Amanda Knox, myfyrwraig o Seattle yn yr Unol Daleithiau, a’i chyn-gariad, Raffaele Sollecito, yn gwadu llofruddio Kercher yn ei hystafell yn Perugia yn yr Eidal yn 2007.

Dioddefodd Kercher, 21, ymosodiad rhywiol a chafodd ei thrywanu i farwolaeth.

Treuliodd Knox a Sollecito bedair blynedd dan glo am lofruddio Kercher, ond enillon nhw apêl yn erbyn y ddedfryd yn 2011.

Dychwelodd Knox i’r Unol Daleithiau cyn clywed bod llys apêl yn gwrthod derbyn eu bod nhw wedi ennill eu hapêl wreiddiol, a chafodd yr euogfarnau eu hail-gyflwyno yn erbyn y ddau.

Fe fydd y Goruchel Lys yn yr Eidal yn penderfynu’n derfynol ynghylch yr euogfarn, a allai olygu terfyn ar wyth mlynedd o droeon trwstan yn yr achos.

Mae’n bosib hefyd y gallai’r Goruchel Lys orchymyn bod apêl arall yn cael ei gynnal.

Mae disgwyl i Sollecito, a gafodd ddedfryd o 25 o flynyddoedd dan glo, fod yn y llys i glywed ei dynged, ond ni fydd Knox yn bresennol.

Mae teulu Meredith Kercher wedi dweud eu bod nhw am weld Knox yn cael ei hestraddodi i’r Eidal pe bai’r llys yn gwrthod ei hapêl.

Dywedodd Knox y llynedd y byddai hi’n gadael yr Eidal pe bai hi’n cael ei chanfod yn euog yn y pen draw.

Fis diwethaf, cyhoeddodd Knox, 27, ei bod hi wedi dyweddïo â ffrind oedd wedi bod yn ysgrifennu ati yn y carchar.

Mae cyfreithwyr ar ran Sollecito yn gobeithio pwysleisio pwysigrwydd ei lythyr yn cyfadde’r drosedd, ond a gafodd ei dynnu’n ôl yn ddiweddarach, a’r ffaith nad oedd y llythyr yn sôn fod Sollecito yn bresennol adeg y llofruddiaeth.

Pe bai’r llys yn derbyn y fersiwn honno o’i stori, fe allai ail-sefyll ei brawf.