Mae beth bynnag 17 o bobol wedi’u lladd wedi i fws lithro oddi ar ffordd fynydd yn ystod glaw yng ngogledd-orllewin Nepal.
Mae’r awdurdodau wedi cadarnhau i’r cerbyd sgidio oddi ar y ffordd ger pentre’ Rararihi, tua 400 milltir i’r gogledd-orllewin o’r brifddinas, Kathmandu.
Mae nifer o bobol sydd wedi’u hanafu wedi cael eu cludo i ysbytai mewn trefi lleol.