Llosgfynydd Villarrica yn Chile
Mae miloedd o bobl wedi gorfod ffoi ar ôl i un o losgfynyddoedd byw mwyaf De America ffrwydro yn Chile.

Ffrwydrodd llosgfynydd Villarrica am 3.00yb amser lleol, yn ôl awdurdodau’r wlad, gan olygu trefniadau brys i symud pobl o’r ardal.

Mae lafa bellach yn llifo i lawr y mynydd a chwmwl anferth o fwg yn codi i’r awyr ble digwyddodd y ffrwydrad.

Roedd lluniau cynharach yn dangos y cwmwl o fwg yn codi i’r awyr gyda lafa’n tasgu o dop y llosgfynydd.

Mae’r mynydd 9,000 troedfedd o uchder yng nghanolbarth Chile, 400 milltir i’r de o’r brifddinas Santiago ac yn edrych dros ddinas Pucon sydd â phoblogaeth o 22,000.

Mae’r ardal yn boblogaidd iawn fel cyrchfan ar gyfer gweithgareddau awyr agored, ac roedd dwsinau o dwristiaid ymysg y 3,500 o bobl sydd wedi cael eu symud o’r ardal hyd yn hyn.

Y tro diwethaf i’r llosgfynydd ffrwydro’n sylweddol oedd nôl yn 1984, ond mae fel arfer yn ffrwydro unwaith bob rhyw ddeg i bymtheg mlynedd.

Rhybuddiodd awdurdodau Chile y gallai lefelau dŵr uchel yn yr afonydd hefyd achosi perygl i bobl, wrth i eira ar ochr y llosgfynydd doddi.

Mae mwy na 2,000 o losgfynyddoedd ym mynyddoedd yr Andes yn Chile, gyda thua 90 ohonyn nhw’n fyw o hyd.